Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Gorffennaf 2018
Amser:
09.15 -
11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4760
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AC Mike Hedges AC |
Tystion: |
Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Claire Rowlands, Llywodraeth Cymru John Pugsley, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) Sian Hughes |
Yn unol â Rheol Sefydlog 17.31, gohiriodd y Cadeirydd y cyfarfod tan 09:35.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy a Janet Finch-Saunders.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
cyn trafod y ddeiseb drachefn cyn gynted ag y bo modd yn nhymor yr hydref.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gofyn am fanylion ychwanegol am y broses a'r amserlenni y mae'n bwriadu eu dilyn yn awr bod yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi dod i ben; a
· cheisio amser ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn yn gynnar yn nhymor yr hydref.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar gyfer Heddlu Gwent a Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail yr ymddengys nad oes fawr o ddim y gall y Pwyllgor ei wneud ynghylch y ddeiseb ar hyn o bryd.
Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn mynd â nifer o orsafoedd newydd posibl trwy broses model busnes 5 cam, a hynny er mwyn cefnogi ceisiadau a wneir i unrhyw Gronfa Gorsafoedd Newydd a gynhelir gan Lywodraeth y DU yn y dyfodol. Mae wedi ymrwymo'r arian cyfatebol angenrheidiol ar gyfer unrhyw geisiadau a gyflwynir.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, gan y Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (y Cynllun) a chan Unite, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad oes llawer y gall y Pwyllgor ei wneud ynghylch y ddeiseb hon, yng ngoleuni'r ymatebion a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ac oherwydd nad yw'r materion a godwyd mewn perthynas â chwmpas a dyluniad y Cynllun yn rhai a ddatganolwyd i'r Cynulliad.
Oherwydd cyfyngiadau amser, ac ar gais y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.
Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.
Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â sylwadau ychwanegol gan y deisebwyr, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd i ofyn, ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 19 Mehefin, am ragor o fanylion am y canlynol:
· yr ystyriaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i opsiynau ar gyfer diwygio deddfwriaeth mynediad yn sgil yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy; a'r
· trafodaethau sy'n cael eu hwyluso â'r Fforwm Mynediad Cenedlaethol.
Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i ganiatáu amser ychwanegol i'r deisebydd roi sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol a thrafod ymhellach a ddylid gwahodd Gweinidog yr Amgylchedd i'r Pwyllgor yn nhymor yr hydref i ateb cwestiynau ar nifer o ddeisebau sy'n ymwneud â phlastigau untro.
Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.
Oherwydd cyfyngiadau amser, ac i roi amser ychwanegol i'r deisebydd roi ei sylwadau, cytunodd y Pwyllgor i ohirio trafod y ddeiseb tan gyfarfod yn y dyfodol.
Nodwyd y papur.
Derbyniwyd y cynnig.
Cytunodd yr Aelodau ar yr Adroddiad gan gytuno hefyd i'w osod yn ystod toriad yr haf fel y gellir ei drafod yn nhymor yr hydref.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Claire Rowlands, a John Pugsley.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunodd ar y camau a ganlyn: